Y nefoedd uwch fy mhen A dduodd fel y nos, Heb haul na lleuad wen Nac unrhyw seren dlos A llym gyfiawnder oddi fry Yn saethu mellt o'r cwmwl du. Cydwybod euog oedd Yn rhuo dan fy mron Mi gofia'i chwerw floedd Tra ar y ddaear hon - Ac yn fy ing ymdrechais ffoi, Heb wybod am un lle i droi. Mi drois at ddrws y Ddeddf Gan ddisgwyl cael rhyddhad; Gofynnais iddi'n lleddf Roi imi esmwythâd: 'Ffo am dy einioes', ebe hi, 'At Fab y Dyn i Galfari!' Gan ffoi, ymdrechais ffoi Yn sŵn taranau ffroch, Tra'r mellt yn chwyrn gyffroi O'm hôl fel byddin goch; Cyrhaeddais ben Calfaria fryn, Ac yno gwelais Iesu gwyn. Er nad yw 'nghnawd ond gwellt A'm hesgyrn ddim ond clai, Mi ganaf yn y mellt Maddeuodd Duw fy mai: Mae craig yr oesoedd dan fy nhraed A'r mellt yn diffodd yn y gwaed. Mi drois :: Troais William Jones (Ehedydd Iâl) 1815-99
Tonau [666688]:
gwelir: |
The heavens above my head Had blackened like the night, Without sun or bright moon Nor any pretty star And sharp righteousness from above Firing lightning from the black cloud. Guilty conscience was Roaring under my breast I will remember the bitter shout While on this earth - And in my anguish I attempted to flee, Without knowing about a single place to turn. I turned to the door of the Law Expecting to get freedom; I asked it soothingly To give me relief: 'Flee for your life,' it said, 'To the Son of Man to Calvary!' While fleeing, I attempted to flee In the sound of fierce thunders, While the lightening was an agitating swirl Behind me like a red army; I reached the top of Calvary hill, And there I saw blessed Jesus. Although my flesh is but grass And my bones nothing but clay, I will sing in the lightening God has forgiven my fault: The rock of ages is under my feet And the lightning extinguishing in the blood. :: tr. 2011 Richard B Gillion |
The sky became at noonHowell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953 Sweet Singers of Wales 1889
|